“Croeso cynnes i chi gyd i wefan Newydd Ceredigion 50+. Mawr obeithiaf y bydd y wefan hon yn hawdd i chi gyd droi ati a’i defnyddio, ac y bydd o fudd i chi wrth i chi gael gafael ar yr holl wybodaeth y mae ei hangen arnoch. Mae hwn yn gyfle gwych i ledaenu newyddion a gwybodaeth yn ehangach i boblogaeth 50+ Ceredigion!” – Catherine Hughes
Nod Fforwm 50+ Ceredigion yw amlygu a mynd i’r afael â’r materion y mae pobl hŷn yn eu hwynebu yng Ngheredigion, trwy gynnig y cyfle iddynt i gyfathrebu ac i ymgysylltu â’i gilydd, yn ogystal â gyda darparwyr gwasanaethau yn ein Sir, gan ddilyn arweiniad Cynllun Cyflawni Heneiddio’n Dda yng Ngheredigion.
Mawr obeithiwn y bydd y wefan hon yn adnodd defnyddiol i chi fel pobl 50+ Ceredigion, a fydd yn eich galluogi i droi at wybodaeth bwysig a gwerthfawr am faterion sy’n bwysig i chi!
Heneiddio’n Dda yng Ngheredigion
Mae Cynllun Cyflawni Heneiddio’n Dda yng Ngheredigion yn dilyn y Strategaeth Pobl Hŷn i Geredigion (2004) a bydd yn dangos sut y mae Cyngor Sir Ceredigion yn bwriadu symud rhaglen Heneiddio’n Dda yng Nghymru yn ei blaen, trwy weithio gyda’n cymunedau, asiantaethau partner a sefydliadau er mwyn sicrhau bod Ceredigion yn lle gwell i fynd yn hŷn ynddo. Bydd Cynllun Cyflawni Heneiddio’n Dda yng Ngheredigion yn canolbwyntio ar 5 prif thema, fel y nodwyd gan raglen Heneiddio’n Dda yng Ngheredigion. Y rhain yw:
- Cymunedau o Blaid Pobl Hŷn
- Cymunedau Cefnogi pobl â Dementia
- Atal Cwympiadau
- Cyfleoedd i sicrhau cyflogaeth a meithrin sgiliau newydd
- Unigrwydd ac Arwahanrwydd
Bydd cynllun cyflawni Heneiddio’n Dda yng Ngheredigion yn ceisio mynd i’r afael â’r 5 prif thema hon o ddifrif er mwyn sicrhau bod Ceredigion yn lle gwych i dyfu’n hŷn ynddo, a bod anghenion a gofynion pobl hŷn yn cael eu hystyried yn llawn.
Logo Ceredigion 50+
Mae datblygiad ein logo 50+ yn tarddu o syniadau a darluniau aelodau ‘Clwb Ni’, sef Clwb Pontio’r Cenedlaethau yn Aberystwyth. Mae Clwb Ni yn bartneriaeth ar y cyd rhwng Tai Ceredigion, Ysgol Gymunedol Plascrug a Chyngor Sir Ceredigion, ac fe’i cefnogwyd gan y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru, er mwyn ceisio dwyn pobl hŷn ac iau ynghyd i ryngweithio, dysgu a chael hwyl! Gofynnwyd i aelodau hen ac ifanc ‘Clwb Ni’ i ddarlunio’r hyn y mae’r geiriau ‘Pontio’r Cenedlaethau’ yn ei olygu iddyn nhw. Mynegwyd nifer o syniadau diddorol, ac o’r syniadau hyn, bu modd i ‘Clwb Ni’ ddylunio logo newydd sbon gyda help tîm datblygu’r we Cyngor Sir Ceredigion.