Cyllid a Budd-daliadau


Pensionwise

pensionwiseMae Pension Wise yn wasanaeth arweiniad diduedd gan y llywodraeth, sydd ar gael yn rhad ac am ddim ac sy’n eich helpu chi i ddeall yr hyn y mae modd i chi ei wneud gyda’ch pot pensiwn.

Mae gwahanol ffyrdd ar gael er mwyn i chi gymryd arian o’ch Pot Pensiwn, ond mae gwybod ble i ddechrau yn gallu bod yn anodd. Mae’r apwyntiadau ar ffurf sgwrs 45 munud, ac mae modd i’r rhain fod yn sgyrsiau wyneb yn wyneb neu dros y ffôn, er mwyn eich helpu i ddeall yr hyn y mae modd i chi ei wneud gyda’ch pot pensiwn personol chi.

Am ragor o wybodaeth neu i wneud apwyntiad, gallwch gysylltu â Chyngor ar Bopeth Ceredigion 01239 621594 (Llinell Pension Wise) neu anfon E-bost at : pensionwise@cabceredigion.org.

Am wybodaeth gyffredinol am Pension Wise, mae modd i chi droi at wefan Pension Wise: www.pensionswise.gov.uk

Age Cymru Ceredigion – Eiriolaeth Ariannol

ageMae Age Cymru Ceredigion yn cynnig amrywiaeth o wybodaeth a chyngor am faterion megis budd-daliadau ac yswiriant, yn ogystal â gwasanaeth eiriolaeth ariannol.

Mae eiriolaeth ariannol yn wasanaeth cyfrinachol ac am ddim sy’n galluogi pobl i fanteisio ar wasanaeth, i wneud penderfyniadau ac i gymryd camau priodol er mwyn delio gyda materion sy’n ymwneud â chyllid.

Cysylltwch â’ch Swyddfa leol am ragor o wybodaeth:

Aberystwyth – 01970 615151
Aberteifi – 01239 615777

Neu mae modd i chi droi at wefan Age Cymru Ceredigion: www.ageuk.org/cymru/ceredigion

Gofal a Thrwsio.

Mae Gofal a Thrwsio Ceredigion yn wasanaeth cyngor a chymorth er mwyn gwella’r Cartref. Os ydych chi’n 60 oed neu’n hŷn, gall yr Asiantaeth ddarparu cyngor a chymorth am ddim er mwyn eich helpu i wneud y gwaith trwsio a’r addasiadau angenrheidiol yn eich cartref. Gall Gofal a Thrwsio:

  • ymweld â chi i drafod eich anghenion
  • rhoi cyngor i chi am unrhyw addasiadau neu waith cynnal a chadw y mae angen ei wneud er mwyn eich galluogi i fyw bywyd annibynnol
  • eich helpu i sicrhau dyfynbrisiau gan gontractwyr dibynadwy a’ch cynorthwyo i drefnu gwaith
  • rhoi cyngor am unrhyw grantiau y gallent fod ar gael gan awdurdodau lleol

A llawer mwy!

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Gofal a Thrwsio Ceredigion ar:

Ffôn: 01970 639920 neu anfonwch e-bost at: careandrepair@cantref.co.uk

Neu trowch at wefan Gofal a Thrwsio: www.careandrepair.org.uk

Cymorth Ariannol Cyngor Sir Ceredigion – Tai

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn cynnig nifer o grantiau tai er mwyn cynorthwyo pobl anabl/oedrannus neu’r rhai y mae Therapydd Galwedigaethol wedi nodi eu hanghenion.

Mae grantiau’n cynnwys:

  • Gorfodol – Grant Cyfleusterau i’r Anabl
  • Atodol – Grant Cyfleusterau i’r Anabl
  • Diogel, Cynnes a Sicr
  • Grant Adleoli
  • Grant Cymorth er mwyn Trwsio’r Cartref ar Frys

Am ragor o wybodaeth, mae modd i chi droi at wefan Cyngor Sir Ceredigion: www.ceredigion.gov.uk/English/Resident/Housing/financialassitance/Pages/default.aspx

Ffôn: 01545 572105 E-bost: housing@ceredigion.gov.uk