Ynglŷn Ceredigion 50+


Nod y Fforwm 50+ yw i dynnu sylw at faterion sy’n effeithio pobl hŷn yng Ngheredigion, drwy cynnig cyfleoedd I gyfathrebu ac I gysylltu gyda’ch gilydd, yn ogystal â cyfathrebu gyda darparwyr gwasanaethau o fewn y Sir, drwy ddilyn arweiniad y cynllun ‘Heneiddio’n Dda yng Ngheredigion’.

Fydd cyfarfodydd y Fforwm 50+ yn cael ei gynnal pob blwyddyn er mwyn trafod materion sydd yn effeithio pobl hŷn yng Ngheredigion, yn ogystal â dathlu pobl hŷn ac i dod at ei’n gilydd i rhannu gwybodaeth a chyngor.

Mae gwybodaeth a chyngor oddi wrth amryw o grwpiau a gwasanaethau yn cael ei amgylchu yn rheolaidd drwy gydol y flwyddyn drwy ein rhwydwaith 50+ ar-lein yn ogystal a Cylchlythyr ‘Heneiddio’n Dda yng Ngheredigion’ sydd yn cael ei amgylchu pob 6 mis. Ewch i adran ‘Newyddion a Digwyddiadau’ ar y wefan hon i ddarllen y rhifyn diweddaraf. Mae copiau papur hefyd ar gael yn swyddfeydd Cyngor Sir Ceredigion, Llyfyrgelloedd y Cyngor Sir, Canolfannau Hamdden a Meddygfeydd lleol.

Am rhagor o wybodaeth ynglŷn ar Fforwm, mae ‘na groeso i chi gysylltu gyda Naomi neu Diane ar undrhyw adeg!

Cofnodion a Cyfarfodydd Nesaf:

15/03/2018 – Digwyddiad Heneiddio’n Dda yng Nghymru – Prifysgol Aberystwyth
Digwyddiad Heneiddio’n Dda yng Nghymru – 15/03/2018

01/03/2017 – Cyfarfod Blynyddol – Neuadd y Dref, Aberteifi
Cyfarfod Blynyddol Ceredigion 50+ – 01/03/2017

15/03/2016 – Cyfarfod Gwesty’r Plu, Aberaeron

07/12/2015 – Cyfarfod Siambr y Cyngor, Penmorfa, Aberaeron – Yn Aros am y Cofnodion

15/09/2015 – Cyfarfod Siambr y Cyngor, Penmorfa, Aberaeron – Dim Cworwm

08/09/2014 – Cyfarfod Siambr y Cyngor, Penmorfa, Aberaeron
Cofnodion Cyfarfod Ceredigion 50+ – 08/09/2014

21/07/2014 – Cyfarfod Siambr y Cyngor, Penmorfa, Aberaeron
Cofnodion Cyfarfod Ceredigion 50+ – 21/07/2014