Iechyd a Lles


Cymdogion Cynnes

cynnesRydym yn cydnabod pwysigrwydd cadw’n gynnes yn ystod misoedd y gaeaf a’r effaith y gall hyn ei gael ar ein hiechyd. Er mwyn ceisio sicrhau na fydd yn rhaid i breswylwyr Ceredigion orfod byw mewn man oer, mae sefydliadau ar draws Ceredigion wedi dod ynghyd i ddatblygu Pecyn Cymdogion Cynnes, sy’n cynnwys gwybodaeth megis grantiau a chymorth ariannol, cadw’n iach yn ystod y gaeaf, cadw’n gynnes, cyngor ariannol a chyfeiriadur o wasanaethau perthnasol.

Cymdogion Cynnes

I gael gwybod mwy neu i gael copi papur o ddogfen Cymdogion Cynnes, cysylltwch â: Naomi McDonagh ar 01545 572105 neu anfonwch E-bost at: Naomi.McDonagh@ceredigion.gov.uk

Clwb Clyd – Clybiau Tanwydd Ceredigion

clwbMae dros 1100 o breswylwyr Ceredigion yn prynu tanwydd gyda’i gilydd mewn clybiau ar draws y sir. Mae’r clybiau wedi llwyddo i gynnig buddion aruthrol i’w haelodau, ac mae nifer ohonynt wedi bod yn gwasanaethu eu cymunedau ers sawl blynedd. Fe’u sefydlwyd a’u trefnwyd gan bobl sy’n meddu ar gryn gymhelliant ac sy’n gwneud y gwaith hwn yn wirfoddol.

Beth yw syndicet prynu olew?

Mae syndicet prynu olew (a elwir yn glwb olew neu’n gydweithrediaeth olew hefyd) yn galluogi pobl i ddod ynghyd i brynu swmpgyflenwad o olew gwresogi am bris rhatach. Gall meintiau syndicetiau amrywio, o ychydig gymdogion i grwpiau cymunedol mwy sy’n cynnwys cant o aelodau neu fwy. Yn y rhan fwyaf o grwpiau, rheolir yr archebion gan un cydlynydd gwirfoddol neu fwy, a fydd yn trafod ac yn cytuno ar bris cystadleuol gan gyflenwyr olew.

Pa mor aml y byddant yn archebu?

Mae’r amlder archebu yn amrywio o bob pythefnos ar adegau pan fo’r galw yn uchel, i lawr i 3 gwaith y flwyddyn. Bydd rhai yn archebu ar y diwrnod 1af o bob mis a bydd gan rai ddull gweithredu ad-hoc, ar sail y galw. Yn aml, byddant yn osgoi archebu y mis Rhagfyr a mis Ionawr pan fo’r galw yn uchel, a gall cyflenwyr flaenoriaethu archebu unigol a phrisiau llwythi.

Beth yw’r manteision?

Arbedion – Gall aelodau syndicetiau fanteisio ar arbedion ariannol. Caiff arbedion eu gwneud trwy brynu swmpgyflenwad, ond mae modd eu gwneud hefyd wrth i bobl y mae ganddynt gytundebau hirdymor sy’n bodoli eisoes, ddarganfod eu bod eisoes yn talu prisiau sy’n uwch na’r pris cyfartalog pan fyddant yn ymuno â syndicet. Mewn rhai achosion yng Ngheredigion, mae pobl wedi arbed hyd at un rhan o dair o’u bil tanwydd.

Sut mae modd i mi ymaelodi â’m clwb lleol?

Chwiliwch am eich clwb a chysylltwch â’ch cydlynydd lleol, a byddant yn rhoi gwybod i chi sut y caiff y clwb ei redeg a pha fanylion y bydd angen i chi eu rhoi iddynt, ac mae’r rhan fwyaf yn cael eu rhedeg trwy system e-bost neu thrwy ganolfan gymunedol ganolog. Am fanylion ar gyfer eich clwb lleol plîs ymweld â’r tudalen ‘Clwb Clud – Clybiau Olew Ceredigion’ ar wefan Cyngor Ceredigion.

Cynllun Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff (NERS)

exerciseBeth yw hwn?

Cynlluniwyd y Cynllun Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff (NERS) er mwyn cynorthwyo unigolion, a nodwyd gan eu Hymarferydd Meddygol, i fanteisio ar gymryd rhan mewn rhaglen ymarfer corff pleserus ac o ansawdd uchel, a hynny dan oruchwyliaeth, er mwyn gwella’u hiechyd a’u lles.

Sut mae modd i mi fanteisio ar y Cynllun?

Mae modd manteisio ar y cynllun trwy ymweld â’ch Meddygfa, a fydd yn eich cyfeirio at aelod o dîm Ymyrraeth Iechyd Cyngor Sir Ceredigion er mwyn iddynt gysylltu â chi.

Sut fyddaf yn cael budd?

Adroddwyd am nifer o fanteision corfforol a seicolegol trwy’r cynllun, gan gynnwys cynnydd mewn nerth cyhyrol, helpu i gynnal annibyniaeth, y gallu i gyflawni gweithgareddau dyddiol am gyfnod hwy a bod yn fwy hyderus.

A hoffech gael gwybod mwy?

Am wybodaeth bellach am NERS, cysylltwch â Paul Jones, Cydlynydd Cyfeirio Ymarfer Corff: 01970 633610 neu 07812087968 neu ymweld a’r wefan: www.ceredigionactif.org.uk

Dosbarth Ymarfer Sadrwydd Osgo

A ydych chi’n pryderu am eich hun neu am ffrind / aelod o’r teulu sydd wedi cwympo neu y mae arnynt ofn cwympo? Bellach, mae Cynllun Cenedlaethol Atgyfeirio Cleifion i wneud Ymarfer Corff Ceredigion yn cynnal Dosbarthiadau Ymarfer Sadrwydd Osgo yng Ngheredigion. I rai, gall y dosbarthiadau hyn leihau’r siawns o gwympo gymaint â hyd at 54%. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’ch meddyg teulu neu Paul Jones, Ceredigion Actif: 01970 633610 neu paul.jones@ceredigion.gov.uk

Dysgu Bro

dysguNod Dysgu Bro yw cynnig cyfleoedd dysgu i bobl Ceredigion yn eu cymuned, a fydd yn annog datblygiad diddordebau newydd, gan weithio tuag at sicrhau cymhwyster neu wella sgiliau yn y gweithle.

Pa Gyrsiau sydd ar gael?

Mae Dysgu Bro yn cynnig amrediad o wahanol gyrsiau, gan gynnwys:

  • Hanfodion TG
  • Cyrsiau Creadigol
  • Cyrsiau Ffordd o Fyw
  • Cyrsiau Sgiliau Digidol
  • Sgiliau Bywyd
  • Hyfforddiant Pwrpasol

I gael gwybod mwy am y cyrsiau hyn a’r hyn y maent yn ei olygu, neu os hoffech gael llyfrynnau a gyhoeddwyd yn ddiweddar, cysylltwch â Dysgu Bro:

Ffôn: 01970 633540

E-bost: admin@dysgubro.org.uk

Ble mae modd i mi fanteisio ar Gyrsiau Dysgu Bro?

Mae Canolfannau Hyfforddiant ar gyfer cyrsiau Dysgu Bro ar gael mewn lleoliadau cymunedol neu weithleoedd neu mewn unrhyw rai o’r lleoliadau canlynol yng Ngheredigion:

  • Aberaeron
  • Penparcau
  • Aberteifi
  • Llandysul

Am ragor o wybodaeth, ffoniwch: 01970 633540 neu trowch at wefan Dysgu Bro: www.dysgubro.org.uk

CAVO – Cyfleoedd Gwirfoddoli

Mae tystiolaeth dda ar gael i gefnogi’r honiad bod gwirfoddoli yn cynnig nifer o fanteision i iechyd rhywun a’i fod yn gwella ansawdd bywyd. Mae canolfan wirfoddoli CAVO yn cynorthwyo gwaith gwirfoddol yng Ngheredigion ac mae modd iddi gynnig gwasanaethau i unigolion sydd â diddordeb mewn gwirfoddoli ac i sefydliadau sy’n cynnwys gwirfoddolwyr yn eu gwaith. I gael gwybod mwy, ffoniwch: 01570 423232 neu ar e-bost: gen@cavo.org.uk neu trowch at: www.cavo.org.uk

Archwiliadau Diogelwch Tân yn y Cartref

Bellach, mae staff o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cynnig archwiliadau Diogelwch Tân yn y Cartref am ddim, a byddant yn darparu ac yn gosod larwm mwg yn rhad ac am ddim.

I gael gwybod mwy, ffoniwch: 0800 169 1234 neu mae modd i chi lenwi ‘Ffurflen Cais am Asesiad Tân yn y Cartref’ ar-lein trwy droi at: www.mawwfire.gov.uk

Dewis Doeth – Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Os ydych chi’n teimlo’n anhwylus, gall ‘Dewis Doeth’ eich helpu i benderfynu a oes angen i chi geisio sylw meddygol neu beidio.

Gallwch: 0845 4647

Am ragor o wybodaeth, trowch at Wefan Hywel Dda: www.wales.nhs.uk neu wefan Dewis Doeth: www.choosewellwales.org.uk

Eich Meddygfa Leol

  • ABERAERON
    • Meddygfa Tan-Y-Fron – 01545 570271
  • ABERYSTWYTH
    • Meddygfa’r Eglwys – 01970 624855
    • Meddygfa Padarn – 01970 624545
    • Grwp Meddygol Ystwyth – 01970 613500
  • BORTH
    • Practis Meddygol Borth – 01970 871475
  • ABERTEIFI
    • Meddygfa Ashleigh – 01239 621227
    • Canolfan Iechyd Aberteifi – 01239 612021
  • LLANBEDR PONT STEFFAN
    • Practis Meddygol Llanbedr Pont Steffan – 01570 422665
  • LLANDYSUL
    • Meddygfa Llynyfran – 01559 364000
    • Meddygfa Teifi – 08448 151117
  • LLANILAR
    • Canolfan Iechyd Llanilar – 01974 241556
  • LLANYBYDDER
    • Meddygfa Brynmeddyg – 01570 480244
  • CASTELL NEWYDD EMLYN
    • Meddygfa Emlyn – 01239 710479
  • CEI NEWYDD
    • Y Feddygfa – 01545 560203
  • TREGARON
    • Meddygfa Tregaron – 01974 298218