Strategaethau/ PolisΪau/ Prosiectau Cyfoes


Y Strategaeth ar gyfer pobl hŷn yng Nghymru 2013 – 2023

Bydd cam 3 o’r Strategaeth ar gyfer Pobl Hŷn yng Nghymru: Byw’n Hirach, Heneiddio’n Dda yn rhychwantu’r 10 mlynedd o 2013- 2023.

Mae cymdeithas sy’n heneiddio yn nodwedd barahol o’n cymdeithas fodern. Mae angen cydweitiho a chroesawu realit’r sefyllfa hon o ran y cyfleoedd a’r heriau a ddaw yn ei sgil.

Yr Her sy’n wynebu Llywodraeth Cymru dros y deng mlynedd nesaf yw:

  • creu Cymru lle mae cyfranogiad llawn o fewn cyrraedd pob person hŷn a lle mae ei gyfraniad yn cael ei gydnabod a’i werthfawrogi
  • datblygu cymunedau sy’n ystyriol o oedran tra’n sicrhau bod gan bobl hŷn yr adnoddau sydd eu hangen arnynt i fyw
  • sicrhau bod cenedlaethau o bobl hŷn yn y dyfodol yn barod ar gyfer cyfnod hwyrach yn eu bywydau drwy eu hannog I gydnabod y newidiadau a’r gofynion y gallant eu hwynebu a pharatoi ar gyfer hynny ymlaen llaw

Am rhagor o wybodaeth, allwch lawrlwytho’r strategaeth ar-lein.

Y Strategaeth ar gyfer Pobl Hŷn yng Nghymru – 2013-2023

Heneiddio’n Dda yng Nghymru 2014 – 2019

Yn dilyn Strategaeth ar gyfer pobl Hŷn yng Nghymru (2013) mae’r rhaglen Heneiddio’n Dda yng Nghymru yn cael ei arwain gan y Comisiynydd Pobl Hŷn yng Nghymru ac yn cynnwys gwaith partneriaeth ar draws Llywodraeth lleol a chenedlaethol, GIG Cymru, y Trydydd Sector, ac yn bwysicach na dim, pobl hŷn. Prif nodau ac amcanion y rhaglen yw Cymunedau sy’n gyfeillgar i oedran, cymunedau sy’n Cefnogi Pobl â Dementia ac Atal Cwympiadau.

Heneiddio’n Dda yn Nghymru – 2014-2019

Heneiddio’n Dda yng Ngheredigion

Mae Heneiddio’n Dda yng Ngheredigion yn dilyn y Strategaeth ar gyfer Pobl Hŷn yng Ngheredigion (2004). Pwrpas y ddogfen hon yw dangos sut y bydd Cyngor Sir Ceredigion yn gweithio gyda thrigolion yn ein cymunedau, asiantaethau partner a sefydliadau i weithredu’r rhaglen Heneiddio’n Dda yng Nghymru a cham 3 y Strategaeth ar gyfer Pobl Hŷn yng Nghymru 2013-2023: Byw’n Hirach, Heneiddio’n Dda.

Yr her yma yng Nghymru, fel y nodwyd gan Lywodraeth Cymru, i’w hwynebu a’i chyflawni gan bob un o’r 22 Awdurdod Lleol yng Nghymru erbyn 2023, yw:

  • Creu Cymru lle mae cyfranogiad llawn o fewn cyrraedd pob person hŷn a lle mae ei gyfraniad yn cael ei gydnabod a’i werthfawrogi
  • Datblygu cymunedau sy’n ystyriol o oedran tra’n sicrhau bod gan bobl hŷn yr adnoddau sydd eu hangen arnynt i fyw
  • Sicrhau bod cenedlaethau o bobl hŷn yn y dyfodol yn barod ar gyfer cyfnod hwyrach yn eu bywydau trwy eu hannog i gydnabod y newidiadau a’r gofynion y gallant eu hwynebu a pharatoi ar gyfer hynny ymlaen llaw

Er mwyn dangos sut y mae’r rhain a blaenoriaethau cenedlaethol eraill yn cael eu cyflawni yng Ngheredigion a sut y maent yn rhyngweithio â dogfennau dylanwadol eraill, mae Cynllun Cyflenwi uchelgeisiol wedi cael ei baratoi yn seiliedig ar y 5 pennawd fel y nodwyd o fewn y rhaglen Heneiddio’n Dda yng Nghymru.

Thema 1: Cymunedau sy’n ystyriol o oedran
Thema 2: Cymunedau sy’n cefnogi pobl â dementia
Thema 3: Atal cwympo
Thema 4: Cyfleoedd ar gyfer cyflogaeth a sgiliau newydd

Heneiddio’n Dda yng Ngheredigion