Trafnidiaeth a Symudedd


Cynllun y Bathodyn Glas

Parking Symbol

Beth yw hwn?

Mae Cynllun y Bathodyn Glas yn drefniant Ewropeaidd o gonsesiynau parcio i bobl anabl neu bobl y maent yn cael anawsterau difrifol wrth gerdded neu y mae ganddynt nam gwybyddol difrifol

A ydw i’n gymwys?

Mae modd i chi droi at wefan Cyngor Sir Ceredigion er mwyn gweld a ydych chi’n gymwys, neu glicio ar y ddolen ganlynol:

Blue Badge Eligibility Check

Sut mae Ymgeisio?

Bydd angen i chi lenwi ffurflen gais (os ydych yn ymgeisio am y tro cyntaf neu os oes gennych chi fathodyn glas yn barod).

Mae modd i chi wneud hyn ar-lein: www.gov.uk/apply-blue-badge NEU gallwch gysylltu â’r Gwasanaethau Cwsmer Corfforaethol ar: 01545 900 333.

* Noder os gwelwch yn dda, yr ymdrinnir â phob ymholiad yn ymwneud â Bathodynnau Glas, o 27/03/201 ymlaen, gan y Gwasanaethau Cwsmer Corfforaethol yng Nghanolfan Rheidol, Aberystwyth, yn hytrach na gan y Gwasanaethau Cymdeithasol, Min-Aeron, Aberaeron.

Bwcabus!

Bwcabus Poster

Os ydych yn byw mewn ardal wledig yng Ngheredigion ac os nad ydych yn gyrru neu os nad oes modd i chi fanteisio ar gar neu drafnidiaeth gyhoeddus yn rheolaidd, beth am ddefnyddio Bwcabus, gwasanaeth bws lleol gwledig sy’n ymateb i’ch galw. Mae’r gwasanaeth ar gael o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, rhwng 7am a 7pm. Mae Bwcabus yn gweithredu o fewn ardal benodol ar y map; trowch at ein gwefan i weld a ydych chi’n teithio yn yr ardal weithredol.

Mae modd i Bwcabus a’r rhwydwaith bysiau cwmpasol ddarparu trafnidiaeth er mwyn mynychu apwyntiadau meddyg, achlysuron cymdeithasol neu os hoffech fynd i’r dref i siopa. A hefyd, mae modd i ddeiliaid Cardiau Teithio Rhatach yng Nghymru deithio ar Bwcabus am ddim. Codir ffi ar deithwyr eraill.

Mae modd i unrhyw un y maent yn cael problemau symud a’r rhai mewn cadair olwyn ddefnyddio cerbydau Bwcabus yn hawdd. Mae modd casglu pobl o’u cartref* a bydd amodau a thelerau yn berthnasol.

Ffoniwch ein canolfan alwadau ddwyieithog a chyfeillgar gan nodi’ch manylion, ymlaciwch a gadewch i ni gynllunio’ch teithiau!

I gael gwybod mwy, trowch at wefan Bwcabus: www.bwcabus.traveline-cymru.info
Ffoniwch: 01239 801 601 neu anfonwch e-bost at: feedback@bwcabus.info

Cludiant Cymunedol Ceredigion

Datblygwyd gwefan Cludiant Cymunedol Ceredigion gan CAVO trwy gyfrwng prosiect ‘Gyrru Ymlaen’ fel ‘siop un stop’ er mwyn cael gwybodaeth am Gludiant Cymunedol yng Ngheredigion. Mae nifer o grwpiau a chynlluniau cymunedol yng Ngheredigion yn darparu cludiant ar gyfer pentrefi gwledig anghysbell ar draws y sir.

Pwy sy’n gallu defnyddio Cludiant Cymunedol Ceredigion?

  • pobl nad oes modd iddynt fanteisio ar lwybrau bysiau arferol oherwydd eu bod yn byw mewn mannau gwledig anghysbell ac nid oes unrhyw fysiau yn teithio yn agos i’w cartrefi
  • pobl nad oes modd iddynt fanteisio ar fysiau cyffredin oherwydd eu problemau symud
  • pobl nad oes modd iddynt fanteisio ar y gwasanaeth bws cyffredin oherwydd y gost
  • grwpiau cymunedol sy’n dymuno cael cludiant i weithgareddau sy’n cynnig budd i’r gymuned

Am ragor o wybodaeth am Gludiant Cymunedol yn eich ardal chi, trowch at:

Ffôn: 01570 423232
E-bost: anne.edwards@cavo.org.uk
Cyfeiriad Post: Bryndulais, 67 Stryd y Bont, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion, SA48 7AB