Cwrs ar gyfer Gyrwyr Hŷn


Mae cwrs ar gyfer gyrwyr hŷn yn dod i Geredigion yn ystod y misoedd nesaf. Mae’r cwrs wedi’i anelu at yrwyr 65 oed a hŷn. Does dim tâl ar gyfer y cwrs, a darperir cinio ar y diwrnod.

Rydyn ni eisiau’ch cadw i symud ac rydyn ni eisiau i chi fod yn annibynnol ac yn hyderus y tu ôl i’r olwyn, felly beth am fanteisio ar y diwrnod anffurfiol hwn, ac elwa o arbenigedd gweithwyr Diogelwch y Ffyrdd proffesiynol a Hyfforddwyr Gyrru Cymeradwy cymwys? Nid prawf gyrru yw hwn; nod y diwrnod yw gwella sgiliau a gwybodaeth a chyflwyno syniadau o ran sut i ymdrin â sefyllfaoedd llawn straen a chynllunio ar gyfer y dyfodol gyda’r bwriad o’ch cadw i yrru’n fwy diogel am fwy o amser.

Cynhelir y cwrs yn Aberystwyth neu Aberaeron.

Os hoffech fynychu’r cwrs, llenwch y ffurflen archebu isod, a’i dychwelyd trwy e-bost i kayleigh.amanda.tonkins@ceredigion.gov.uk neu ar yn ail allwch gysylltu â Kayleigh Tonkins ar 01545 572 053 i ddymuno ffurflen papur gydag amlen ragdal.

Cwrs ar gyfer Gyrwyr Hŷn – Llythyr Bwcio